Signed in as:
filler@godaddy.com
Signed in as:
filler@godaddy.com
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Gymraeg Tŷ Tawe, Siop Tŷ Tawe yw’r unig siop Gymraeg yn Abertawe, ac yno ceir ystod eang o nwyddau Cymreig, gan gynnwys: llyfrau, anrhegion, nwyddau cartref, teganau, cardiau, bwydydd a llawer mwy.
Sefydlwyd Canolfan Gymraeg Tŷ Tawe ym 1987, a chaiff ei rhedeg gan Gymdeithas Tŷ Tawe.
Mae Tŷ Tawe yn cynnig: ystafelloedd dysgu ar gyfer gwersi Cymraeg; ystafelloedd cyfarfod; neuadd digwyddiadau; caffi; siop Gymraeg Siop Tŷ Tawe a swyddfeydd i Fenter Iaith Abertawe.
Mae’n bosib llogi ystafelloedd y ganolfan drwy gysylltu â’r sywddogion:
Mae gwell cyfleoedd nag erioed i ddysgu Cymraeg ar hyd a lled Abertawe a Castell Nedd, Port Talbot.
Ar gyfer y gwaith, y teulu, neu am hwyl, beth bynnag yw’r rheswm dros ddysgu Cymraeg, mae gan Brifysgol Abertawe gyrsiau ar bob lefel – i bobl sydd am ddechrau dysgu Cymraeg neu i chi sydd eisiau gwella’ch Cymraeg.
Am y wybodaeth ddiweddaraf am wersi Cymraeg yn ardal Abertawe a Chastell Nedd, Port Talbot dilynwch y linc isod: