Wedi’i leoli yng Nghanolfan Gymraeg Tŷ Tawe, Siop Tŷ Tawe yw’r unig siop Gymraeg yn Abertawe, ac yno ceir ystod eang o nwyddau Cymreig, gan gynnwys: llyfrau, anrhegion, nwyddau cartref, teganau, cardiau, bwydydd a llawer mwy.
Situated in Tŷ Tawe, Siop Tŷ Tawe is Swansea's only Welsh language shop. It stocks a variety of Welsh goods including books, gifts, homeware, toys, cards, confectionary, and much more.
Mudiad Cenedlaethol yw Mentrau Iaith Cymru (MIC) sy’n cefnogi rhwydwaith o 22 Menter Iaith ledled Cymru. Mae MIC yn cefnogi’r rhwydwaith o Mentrau Iaith trwy amryw o weithgareddau a meysydd, fel marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a dylanwadu er budd y Gymraeg. Mae rhannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith a phartneriaid eraill ar draws Cymru yn ein helpu i gyd hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi ein cymunedau.
Mentrau Iaith Cymru (MIC) is a national organisation that supports a network of 22 local Welsh language initiatives, Mentrau Iaith, across Wales. MIC supports the Mentrau Iaith network in a variety of ways, such as marketing and communications, training and lobbying for the sake of the Welsh language. Sharing information, experiences, ideas and resources between the Mentrau Iaith and other partners in Wales helps us all to promote the language and support our communities.
Mae gwell cyfleoedd nag erioed i ddysgu Cymraeg ar hyd a lled Abertawe a Castell Nedd Port Talbot. Beth bynnag yw eich rheswm dros ddysgu Cymraeg, mae gan Brifysgol Abertawe gyrsiau ar bob lefel – i bobl sydd am ddechrau dysgu Cymraeg neu i chi sydd eisiau gwella’ch Cymraeg.
There are more opportunities than ever to learn Welsh across Swansea and Neath Port Talbot. Whatever your reason for learning Welsh, Swansea University has courses for every level - from complete beginners to those who want to improve their Welsh.
Mae Cymraeg i Blant ar gael o’r cychwyn cyntaf i dy helpu di fel rhiant newydd i siarad Cymraeg gyda dy blentyn yn y cartref ac i dy gefnogi di wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.
Cymraeg for Kids (Welsh for kids) is here from the very beginning to help you as a new parent learn how to introduce Welsh into your home when opting for Welsh-medium childcare and education.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes ysbrydoledig cyfraniad ein cenedl i ddiwydiant ac arloesedd ddoe, heddiw ac yfory.
The National Waterfront Museum tells the inspiring story of Wales’s contribution to past, present and future innovation and industry.
Mae Cyngor Abertawe yn sylweddoli bod chwarae'n bwysig i deuluoedd ac yn annog pawb i ddod i'n sesiynau chwarae mynediad agored.
Swansea Council value the importance of play among families and welcome all to attend our open access play sessions.